Werther Ensemble

 

Dydd Sadwrn 3 Hydref 7.30yh – Theatr Mwldan

£14 (£12) £1 dan 22

 

Jamie Campbell (feiolin) Hanna Strijbos (fiola) James Barralet (sielo) Simon Callaghan (piano)

 

Mozart Pedwarawd yn G leiaf, K478

Mendelssohn Pedwarawd yn F leiaf, Op 2

Faure Pedwarawd yn C leiaf, Op 15

 Mae’r Pedwarawd Werther o Lundain yn cynnwys pedwar cerddor o safon, i gyd yn unawdwyr a cherddorion siambr arweiniol a chanddynt gyrfaoedd diddorol ac amrywiol. Rhoddodd y grŵp eu perfformiad cyntaf fel pedwarawd piano yn Chwefror 2013. Erbyn hyn maent yn perfformio’n rheolaidd yn Neuadd Conway (lle mae’r pianydd Simon Callaghan yn Gyfarwyddwr Artistig), Sgwâr St John’s Smith ac o gwmpas y DU. Mae eu gwaith wedi ei gynnwys ar BBC Radio 3 ‘In Tune’.

Prynu Tocynnau Yma

 

Darllen mwy:Werther Ensemble

Leslie Howard (piano)

 

Dydd Gwener 4 Rhagfyr 7.30yh – Theatr Mwldan

£14 (£12) £1 dan 22

 

HAYDN Sonata Rhif. 39 yn D fwyaf, Hob.XVI/24

BEETHOVEN Sonata Rhif. 28 yn A fwyaf, Opws 101

LISZT Quatre Valses Oubliées, S215 & Petite Valse, S695e

LISZT Réminiscences des Huguenots de Meyerbeer – Grande Fantaisie dramatique, S412ii

 

Yn ddinesydd Prydain ac Awstralia, mae Leslie Howard wedi cyflawni camp heb ei hail gan unrhyw artist unigol mewn hanes recordio - ei arolwg 99 CD i Hyperion ar gerddoriaeth piano cyflawn Franz Liszt, gan gynnwys pob un o’r 17 darn ar gyfer piano a cherddorfa.  Mae Leslie Howard wedi ymddangos yn rhyngwladol gyda cherddorfeydd gorau’r byd ac mae wedi teithio ar draws pum cyfandir yn y blynyddoedd diweddar gan gyfareddu cynulleidfaoedd gyda’i repertoire anturus.

Prynu Tocynnau Yma

Darllen mwy:Leslie Howard

 

Joe Zeitlin (sielo) a Ljubica Stojanovic (piano)

 

Dydd Sadwrn 13 Chwefror 7.30yh – Theatr Mwldan

£14 (£12) £1 dan 22

 

Bach Sonata i Viola da Gamba a bysellfwrdd Rhif.1 yn G fwyaf, BWV 1027

Debussy Cello Sonata yn D leiaf, L 135

David Popper Serenade

Beethoven Sonata Rhif.2 yn G leiaf, Op.5 Rhif.2

 

Cafodd Joe Zeitlin ei fagu yn ardal Abergwaun ac ar ôl mynychu’r ysgol yn y fro derbyniodd ysgoloriaethau cerddorol i Ysgol Gadeiriol Wells, Ysgol Purcell a’r Academi Gerdd Frenhinol. Graddiodd o’r academi gyda Gradd BMus Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2005 o dan David Strange. Mae wedi cymryd rhan mewn nifer o ddosbarthiadau meistr gyda  Steven Isserlis, Gary Hoffman a Steven Doane. Yn y gorffennol, mae Joe wedi perfformio i Ymddiriedolaeth Gerdd Peter Gould mewn dull arall, fel aelod o Bedwarawd Wu (bellach yn Bedwarawd Eden), ac mae’n perfformio gyda nhw yn rheolaidd ar draws  y byd.

Mae Ljubica Stojanovic yn bianydd 24 mlwydd oed o Serbia. Wedi ei disgrifio fel pianydd arweiniol o genhedlaeth ifanc ei gwlad, bu Ljubica yn astudio ar ysgoloriaeth lawn yn ysgol gerdd ‘Prifysgol Celf Cerdd’ ym Melgrade  lle astudiodd gyda’r Athro Aleksandar Sandorov. Ar hyn o bryd, mae Ljubica yn parhau ei hastudiaeth Feistr yn yr Ysgol Gerdd a Drama Guildhall fawreddog yn Llundain. Mae wedi ennill dros 20 o gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys y gystadleuaeth “Grand Prix” ryngwladol i bianyddion ifanc yn Geneva.

 

Prynu Tocynnau Yma

 

Darllen mwy:Joe Zeitlin (sielo) a Ljubica Stojanovic (piano)
Galliard

Galliard Ensemble

 

Dydd Sadwrn 19 Mawrth 7.30yh – Theatr Mwldan

£14 (£12) £1 dan 22

galliard2

Kathryn Thomas (ffliwt), Katherine Spencer (clarinet), Helen Storey (basŵn), Owen Denis (obo), Richard Bayliss (corn).

 

Mozart Pumawd yn C leiaf 

Guilio Briccialdi Quintuor Op 124

Eugene Bozza Scherzo Op 48

Paul Patterson Westerly Winds

Percy Grainger Walking Tune

Percy Grainger Lisbon

Jim Parker Mississippi 5

 

Fel cyn Artistiaid Cenhedlaeth Newydd y BBC, mae’r Galliard Ensemble wedi dod yn un o grwpiau siambr arweiniol Prydain. Mae Kathryn Thomas, sy’n hanu o Hwlffordd, yn un o aelodau sefydlu’r ensemble uchel ei barch hwn. Erbyn hyn yn ei 22ain mlynedd, mae’r ensemble wedi perfformio yn nifer o ganolfannau a gwyliau blaenaf y byd. Caiff gwaith y grŵp ei ddarlledu’n fynych ar BBC Radio 3 ac yn rhyngwladol. 

Fel datganodd Gramophone Magazine: 'Pleser pur…. Yn fyr, hwn yw chwarae pumawd chwythbrennau o’r radd flaenaf…. Cewch syniad da iawn o ba mor bleserus y byddai cyngherddau cyhoeddus Galliard. Argymhellaf yn frwd.’

 

Prynu Tocynnau Yma

 

Darllen mwy:Galliard Ensemble